MAE BBC Cymru Fyw wedi lansio y podlediad cyntaf yn y Gymraeg yn benodol i drafod materion LHDTC+, Esgusodwch fi?

Wedi ei gyflwyno gan yr actor Meilir Rhys Williams a’r ymgyrchydd LHDTC+ a iechyd meddwl Iestyn Wyn, fe fydd y gyfres 12 pennod yn croesawu gwesteion adnabyddus i rannu safbwyntiau a phrofiadau personol am hunaniaeth a materion cyfoes, i chwerthin a sgwrsio, ac i ddadlau a thrafod yn di-flewyn ar dafod.

Mae’r bennod gyntaf ar gael yma ar BBC Sounds.

Meddai Meilir: “Dwi’n edrych ymlaen at wahodd pawb i fod yn rhan o drafodaethau yr ydym efallai yn llai cyfarwydd â nhw drwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fydd y podlediad yma yn gyfle i bawb ofyn cwestiynau, i drafod ac i daflu golwg ar safbwyntiau gwahanol a materion y gymuned LHDTC+ yma yng Nghymru a thu hwnt.”

Meddai Iestyn “Dw i wir wedi bod yn edrych ‘mlaen at lansio Esgusodwch fi? Mae cael gweithio hefo Meilir ar y podlediad wedi bod yn gymaint o hwyl yn barod – ‘da ni ‘di bod wrthi ers mis Awst yn cynllunio! Mi yda ni ar dân i greu a rhannu cynnwys.

Mae Cymru’n llawn pobl LHDTC+ difyr ac mae’n hen bryd i ni gael podlediad sy’n rhoi llais i gymuned LHDTC+ Cymru – a pham ddim gwneud hynny mewn podlediad sydd yn mynd i fod yn ychydig o bob dim; o’r mwydro ysgafn, i’r sgyrsiau sy’n mynd i fod yn rhoi'r byd a’i bobl yn eu lle.”