MAE cyfnod enwebu ar gyfer seremoni gwobrau flynyddol Mudiad Meithrin, sy’n cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y darpariaethau, newydd agor.

Mae Mudiad Meithrin yn chwilio am enwebiadau aelodau staff a gwirfoddolwyr Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi neu feithrinfeydd dydd am wobr mewn deg categori.

Meddai Leanne Marsh, pennaeth datblygu gwasanaethau Mudiad Meithrin: “Mae'r seremoni gwobrau yn rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i'n staff a'n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad.

Dyma gyfle i unrhyw un enwebu Cylch Meithrin; cylch Ti a Fi neu feithrinfa ddydd - am wobr mewn un o ddeg gwahanol gategori.”

Mae'r holl fanylion ar gael ar wefan Mudiad Meithrin - www.meithrin.cymru/enwebu - gyda gwahoddiad i bawb enwebu cylch neu feithrinfa sy'n gwneud gwaith da mewn amryw feysydd.

Bydd y cyfnod enwebu ar agor tan Mawrth 6.

Ychwanegodd Leanne: “Y cyfan sydd rhaid gwneud yw nodi 3 rheswm pam eich bod yn enwebu. Mae modd i chi hefyd ychwanegu hyd at 3 llun i’r enwebiad.”

Ategodd Iola Jones, pennaeth cyfathrebu a phartneriaethau’r Mudiad: "Edrychwn ymlaen at dderbyn llu o enwebiadau yn ystod yr wythnosau nesaf!"

Cynhelir y seremoni wobrwyo eleni yn Theatr y Werin, Aberystwyth bnawn Sadwrn, Hydref 17.

Bydd y panel dyfarnu’n cyfarfod ym mis Ebrill cyn cyhoeddi rhestr fer ar gyfer pob categori erbyn diwedd tymor yr haf.