MAE'R awdur poblogaidd Llwyd Owen newydd gyhoeddi ei ddegfed nofel Gymraeg, a hynny mewn prosiect arloesol gyda band Yr Ods, gyda chopïau yn cael eu rhoi mewn bocs-set unigryw yn ogystal â’i werthu yn unigol.

Iaith y Nefoedd yw teitl y nofel a’r albwm sy’n rhan o brosiect unigryw yn cydblethu cerddoriaeth a llenyddiaeth.

Mae’r nofel yn digwydd mewn dau gyfnod amser gwahanol: yn y dyfodol agos, yn 2026, ac ymhellach i ffwrdd, yn 2066, mewn byd ‘ar ôl y bleidlais’.

Mae’n cynnig gweledigaeth ddychrynllyd o Gymru’r dyfodol, ac mae’n arbennig o arwyddocaol o gofio datblygiadau gwleidyddol y flwyddyn ddiwethaf.

Meddai Llwyd Owen: “Does dim neges fel y cyfryw, ond mae yna lawer o rybuddion!

"Yn y flwyddyn 2026, gyda’r byd ar drothwy rhyfel niwclear a Phrydain ôl-Brexit yn prydru â chasineb a hiliaeth beunyddiol, mae’r iaith Gymraeg yn waharddedig a’i siaradwyr yn cael eu gorfodi i gladdu eu hunaniaeth, neu wynebu’r gosb eithaf.

"Ac yna yn y flwyddyn 2066, deugain mlynedd ar ôl yr holocost niwclear, mae’r anifeiliaid yn dychwelyd, gan ddod â gobaith newydd i fyd llawn tywyllwch.”

Enillodd ail nofel Llwyd, Ffydd Gobaith Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007.