"GWADDOL Sain ydi y byd pop Cymraeg; does ‘na’m dowt am hynna. Nhw oedd y bechgyn ifanc brwdfrydig ‘ma efo’r cwl ffactor oedd wedi denu’r holl grwpiau ‘ma i recordio iddyn nhw,” meddai’r gantores a’r cyflwynydd Caryl Parry Jones.

Mae Sain, cwmni recordiau mwyaf Cymru wedi rhoi llwyfan arbennig i gerddoriaeth Gymraeg, ac wedi darparu cyfeiliant i fywydau pobl Cymru ers diwedd y 1960au.

Eleni, mae’n dathlu’r garreg filltir o 50 mlynedd ers i Dafydd Iwan a Huw Jones sefydlu’r label.

Bydd rhaglen arbennig, Sain yn 50, a ddarlledir ar S4C ar Rhagfyr 15, yn ein tywys ar siwrnai nostalgig drwy archif y traciau sy’n sain i gyfnodau amrywiol yn ein hanes, gan ddod ag atgofion yr hanner canrif ddiwethaf yn fyw.

Cawn berfformiadau eiconig o’r archif, a chyfweliadau gydag enwau mawr y byd cerddoriaeth sy’n rhoi darlun hwyliog a lliwgar o ddatblygiad y byd adloniant Cymraeg.

Mae sêr amlycaf byd pop Cymraeg i gyd wedi recordio gyda Sain; yn eu mysg mae Meic Stevens, Edward H, Geraint Jarman, Heather Jones, Bando, Elin Fflur, Swnami a Lleuwen Steffan a’r cantorion clasurol Aled Jones a Bryn Terfel.

Yn fwy diweddar, grwpiau fel Catatonia, Anrhefn, Anweledig, Big Leaves a Bryn Fôn a’r Band, a hynny o dan Crai, label amgen y cwmni.

Mae stori Sain yn dechrau yn y 60au - amser newid a chyffro led led y byd - yn gerddorol ac yn wleidyddol.

Ac yma yng Nghymru, roedd brwydr yr iaith wedi tanio ysbryd chwyldroadol ymysg y bobl ifanc.

Ac roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn Sain, wrth i’r record gyntaf, Dwr gan Huw Jones, gyfeirio at hanes boddi Tryweryn.

O senglau i LPs ac o vinyl i CDs, mae newidiadau sylweddol wedi digwydd i dechnoleg gwrando ar gerddoriaeth dros y blynyddoedd, a sawl cwmni recordiau rhyngwladol wedi mynd i’r gwellt wrth wynebu’r heriau hyn.

Mae Sain, fodd bynnag, yn dathlu’r ffaith ei fod wedi arloesi ac addasu dros y degawdau fel esbonia Huw Jones: “Yr hen air Yma o Hyd; wel, mae rhywun yn gorfod ymfalchïo yn hynny o beth, ond peidio bodloni ar hynny – dyna’r peth – mae’n rhaid hefyd parhau i symud ymlaen, wynebu heriau, tra’n ymfalchïo yn beth sydd wedi cael ei gyflawni ddoe.”

Sain yn 50

Nos Sul, Rhagfyr 15

8.00 ar S4C.