FEL rhan o’r nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2050, mae’n hanfodol bwysig fod siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn cael y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg yn naturiol o fewn eu cymunedau.

Bwriad prosiect Cymunedau Dwyieithog Sir Ddinbych gan Menter Iaith Sir Ddinbych yw rhoi’r cyfleoedd hynny i bobl yn eu cymuned.

Mae swyddogion y prosiect, Nia Parry a Buddug Davies, yn ymgymryd â’r dasg hwn, ac maent wedi bod yn cydweithio mewn cymunedau ledled y sir i gynnal gweithgareddau perthnasol i’r cymunedau hynny.

Mae cyfres o sesiynau Paned a Sgwrs bellach wedi’u cynllunio, a chafwyd y cyntaf yn y Ganolfan Iaith ym Mhwll y Grawys, Dinbych ddiwedd Gorffennaf.

Cynhelir un yn y Cocoa Rooms yn Llandyrnog ddydd Sadwrn yma o 10am ac ym Mhafiliwn Rhewl ar Tachwedd 20.

Bydd sesiwn arall yng Nghanolfan Iaith yn Ninbych ddydd Mercher, Tachwedd 14, a’r bwriad gyda rhain i gyd yw i o ddod â dysgwyr Cymraeg a siaradwyr rhugl at ei gilydd er mwyn sefydlu arferion iaith gadarnhaol a helpu datblygu hyder dysgwyr.

Os ydych yn meddwl y gallwch sbario awr neu ddwy i annog a chefnogi dysgwyr, trwy ddod draw i gael sgwrs dros baned, cysylltwch â Nia neu Buddug ar 01745 812822.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.