CYNHALIWYD cynhadledd flynyddol y National Rural Touring Forum (NRTF) yn Pontio, Bangor yr wythnos ddiwethaf.

Ers 1997, mae’r NRTF wedi cefnogi cynlluniau teithio gwledig, hyrwyddwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol i ddod â chynyrchiadau creadigol proffesiynol i leoliadau a chynulleidfaoedd gwledig.

Yn ystod y gynhadledd, cyflwynwyd y Gwobrau Teithio Gwledig.

Yn fuddugol yng nghategori hyrwyddwr gwirfoddol neu grwp hyrwyddo y flwyddyn oedd Gaynor Morgan Rees a Gwyneth Kensler o Ddinbych. Dywedodd Pete Gregory, o Noson Allan: "Ers dros 20 mlynedd mae Gaynor Morgan Rees a Gwyneth Kensler o Theatr Twm o'r Nant yn Ninbych wedi trefnu perfformiadau drwy'r cynllun Noson Allan.

"Yn y pedair blynedd diwethaf yn unig, maent wedi hyrwyddo 36 sioe ac rydym yn rhagweld llawer mwy i ddod."

Cafodd gwmni Theatr Bara Caws, sy’n aml yn ymweld â Sir Ddinbych, wobr arbennig. Dywedodd eu henwebwr am y cwmni: "Mae Theatr Bara Caws yn gwmni theatr cymunedol sy'n cyflwyno gwaith gwreiddiol, sy’n berthnasol i amrywiaeth eang o bobl.

"Maen nhw’n cynnig profiadau theatrig o'r ansawdd uchaf, ac yn dod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i gymunedau Cymru."