MAE 14 o ysgolion Sir Ddinbych wedi cael eu gwobrwyo am eu hymrwymioad i gynyddu nifer y disgybion sy’n cyfathrebu’n gymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ym mis Ionawr 2016, fe lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot y Siarter Iaith yn ysgolion cyfrwng Cymraeg Sir Dinbych.

Nod syml y Siarter Iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg.

Drwy gymryd rhan yn y cynllun, bydd ysgolion yn cynllunio’n fwriadus i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.

Mae’r Siarter Iaith yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - y cyngor ysgol a’r llysgenhadon iaith, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.

Ar ddechrau’r cynllun sefydlwyd yr egwyddor bod pob ysgol yn gosod eu gweledigaeth heriol a chyraeddadwy ei hun gan ddilyn canllawiau y gwobrau cynnydd EFYDD, ARIAN ac AUR

Derbyniodd yr ysgolion Wobr Efydd y Siarter Iaith nôl yn haf 2016 a’r Wobr Arian yn haf 2017. Ers hynny mae’r ysgolion wedi bod yn gweithio’n galed i ymgyrraedd â gofynion y Wobr Aur ac ers haf 2018 maent wedi cael eu dilysu un ar ôl y llall ac wedi llwyddo yn eu hymdrechion i gyrraedd nod y Wobr Aur.

Ymysg yr ysgolion llwyddiannus yw Ysgol y Gwernant, Llangollen; Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd; Ysgol Betws Gwerfil Goch; Ysgol Bro Elwern, Gwyddelwern; Ysgol Pen Barras, Rhuthun; Ysgol Pentrecelyn; Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch; Ysgol Tremeirchion; Ysgol Henllan; Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych; Ysgol Pant Pastynog, Prion ac Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog.

Dywedodd y Cyng Huw Hilditch Roberts, aelod arweiniol y cabinet dros addysg, gwasanaethau plant ac ymgysylltu â’r cyhoedd: “Mae derbyn y Wobr Aur yn dangos yn glir y gwaith called sydd wedi mynd rhagddo o fewn yr ysgolion er mwync ael mwy o ddisgyblion I gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r disgyblion wedi cael eu hysbrydoli i fwynhau defnyddio’r Gymraeg mewn ystod gynyddol o sefyllfaoedd gan gynyddu eu defnydd o dechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg a’u hyder i ddefnyddio’r iaith yn ehangach o fewn eu cymuned a thu hwnt.

“Llongyfarchiadau mawr i bob un ysgol ar eu llwyddiant.”