MAE pennaeth newydd wedi’i benodi yn Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy.

Bydd Gwyn Tudur yn gadael ei rôl fel pennaeth yn Ysgol Tryfan, Bangor yn dilyn saith mlynedd, a bydd yn cymryd yr awenau gan Bethan Cartwright ar ôl iddi adael ar ddiwedd tymor yr haf.

Meddai Mr Tudur: “Rwyf yn falch iawn fy mod yn dechrau swydd newydd fel pennaeth yn Ysgol Glan Clwyd.

"Mae hon yn ysgol wych sy’n cynnig addysg o’r radd flaenaf i ysgolion, ac edrychaf ymlaen at barhau â’r traddodiad hwnnw.

"Rwy’n credu’n gryf fod dwyieithrwydd yn sgil arbennig i’w datblygu ymysg dysgwyr.

"Rwy'n teimlo'n angerddol am ddarparu addysg gynhwysol o'r radd flaenaf i blant a phobl ifanc.

"Credaf yn gryf mewn system addysg deg a chynhwysol sy'n rhoi cyfle cyfartal i bob dysgwr gyrraedd eu potensial, beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol.

“Rwy’n gwbl argyhoeddedig mai'r dosbarth yw'r lle i wneud gwahaniaeth, a chredaf fod ysgolion angen annog annibyniaeth ac arloesedd ymysg ein hathrawon, er mwyn iddynt allu cymryd risgiau ac ysbrydoli.”

Mae Mr Tudur yn chwarae rhan weithredol mewn datblygu arweinyddiaeth ar draws y rhanbarth gan gefnogi darpar benaethiaid a phenaethiaid newydd fel mentor, mae’n asesydd CPCP ac yn Arolygydd Cymheiriaid ar gyfer Estyn.

Fe astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac fe raddiodd ym 1990, mae wedi dysgu yn Ysgol Gyfun Llanhari ac Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, lle’r oedd yn bennaeth yr Adran Gymraeg ac yn aelod o'r uwch dîm arweinyddiaeth.

Dywedodd y Cyng Huw Hilditch Roberts, aelod arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros addysg, plant a phobl ifanc: “Mae’n bleser croesawu Gwyn i Sir Ddinbych.

"Mae’n bennaeth ardderchog a bydd ei arweinyddiaeth yn sicrhau parhad o'r addysg ragorol yn Ysgol Glan Clwyd ac yn sicrhau’r gefnogaeth orau i siaradwyr Cymraeg ifanc y sir.”

Meddai Gwenan Prysor, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Glan Clwyd: “Dyma gychwyn ar gyfnod cyffrous arall yn hanes Ysgol Glan Clwyd.

"Rydym yn edrych ymlaen gyda hyder y bydd Mr Tudur a’i dîm yn adeiladu ar y llwyddiant y mae’r ysgol wedi ei fwynhau dros y blynyddoedd ers iddi ei sefydlu fel ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg cyntaf Cymru.”