BYDD y bythefnos gyntaf ym mis Mai yn brysur eithriadol i Fwrdd Ardoll Cig Coch Cymru wrth iddo hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI ar dri chyfandir.

Bydd tîm marchnata Hybu Cig Cymru (HCC) yn chwifio’r faner ar gyfer cig coch Cymru mewn digwyddiadau masnach yn Toronto, Milan a Hong Kong, sef tair marchnad bell a gwahanol sy'n cynnig cyfleoedd i'r sector cig coch yng Nghymru.

Mae SIAL Canada, a gynhelir yn Toronto o Ebrill 30-Mai 2, yn sioe fasnach ryngwladol bwysig sy'n denu dros fil o arddangoswyr cenedlaethol a rhyngwladol ac sy’n croesawu dros 15,000 o brynwyr. Mae Canada wedi bod yn farchnad darged bwysig i HCC oddi ar 2010, ac mae'r galw am gigoedd oen ac eidion Cymru wedi tyfu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn y digwyddiad, bydd HCC yn rhannu stondin â chymheiriaid o’r Alban a Lloegr, gyda’r cyllid yn dod o gronfa £2 miliwn o ardoll cig coch AHDB sydd wedi ei neilltuo ar gyfer prosiectau ar y cyd gan y tri bwrdd ardoll Prydeinig – AHDB, HCC a QMS.

Dywedodd Pearse Dolan, llywydd y cwmni cyfanwerthu Dolan Foods: “Mae cigyddion a chogyddion yng Nghanada wedi bod yn gyflym i adnabod y safon sy’n amlwg yng Nghig Oen Cymru.

"Mae’r stori o ffermio defaid mewn ffordd draddodiadol yng Nghymru yn un sy’n taro tant o fewn ein marchnad; mae’n frand yr ydym yn falch o’i chefnogi.”

Mae Cig Oen Cymru wedi hen ennill ei blwyf yn yr Eidal. Mae’r Eidalwyr hefyd yn prynu mwy a mwy o gig eidion Cymru. Felly, bydd presenoldeb HCC yn TuttoFood ym Milan (Mai 6-9) yn canolbwyntio ar gynnal perthynas â chwsmeriaid cyfredol yn ogystal â chyflwyno'r cynnyrch i ddarpar brynwyr.

Hofex, sy'n cael ei chynnal yn Hong Kong (Mai 7-10), yw’r brif sioe fasnach fwyd a lletygarwch yn Asia.