OS ewch chi o gwmpas rhai o strydoedd fawr lleol dros y dyddiau nesaf, cewch wledd o liw yn rhai o ffenestri'r busnesau wedi iddynt fynd ati i addurno yn arbennig ar gyfer Mawrth 1.

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych a'r prosiect Cymraeg Byd Busnes wedi bod yn annog busnesau i ddathlu dydd ein nawddsant drwy feddwl am iaith a diwylliant Cymru.

Mae llond albwm o luniau'r ffenestri i'w gweld ar dudalen Facebook Menter Iaith Sir Ddinbych, ewch draw i gael golwg.

Neu gwell fyth, ewch allan i gefnogi busnesau lleol, ac yn arbennig y rhai sy'n defnyddio'r Gymraeg ac yn tynnu sylw at ddiwylliant a hanes Cymru.

Meddai Iorwen Jones, o'r Fenter: "Hoffwn ddiolch i gynghorau tref Dinbych, Rhuthun a Rhuddlan, a phrosiect Cymraeg Byd Busnes am eu cefnogaeth wrth i ni gynnal y gystadleuaeth hon ledled y sir.

"Mae'r ffenestri yn werth eu gweld! Diolch i bob busnes sydd wedi cymryd rhan."

Fuodd Ysgol Pant Pastynog hefyd yn tynnu sylw at ddydd ein nawddsant yn ddiweddar, wrth iddynt orymdeithio i fyny Stryd y Dyffryn yn Ninbych, at Sgwar y Goron, lle cafwyd perfformiadau o ganu Cymraeg yn cynnwys yr Anthem Genedlaethol.