MI ddylai Cymru osgoi brwydr gorfforol yn erbyn Lloegr os maent am drechu’r hen elyn yn eu gêm Chwe Gwlad Guinness, yn ôl cyn-maswr Cymru Nicky Robinson.
Bydd Clwb Rygbi, sy’n cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru, yn dangos y gêm yn fyw o’r Stadiwm Principality, am 4yp ar ddydd Sadwrn, Chwefror 23 ble fydd Nicky yn ymuno â Catrin Heledd, Gareth Rhys Owen a chyn flaenwyr Cymru, Andrew Coombs a Dafydd Jones ar gyfer y gêm.
Yn ogystal, bydd Clwb Rygbi yn darlledu’r gêm rhwng Cymru Dan 20 a Lloegr Dan 20 am 6.50yh ar nos Wener, Chwefror 22, a’r gêm rhwng Menywod Cymru a Menywod Lloegr am 12.15yp ar ddydd Sul, Chwefror 24.
I gwblhau penwythnos mawr o rygbi, bydd Clwb Rygbi yn dangos y gêm Guinness PRO14 rhwng Benetton a’r Dreigiau am 12.45yp ar ddydd Sadwrn, Chwefror 23.
Dywedodd Nicky Robinson, a enillodd 13 gap dros ei wlad: "Mae angen amrywiaeth yn y ffordd mae Cymru’n ymosod, yn enwedig o’r safle gosod.
"Yn erbyn Lloegr, dw i eisiau gweld Cymru yn creu symudiadau i geisio sgorio o’r cymal cyntaf.
"Mae’n rhaid i ni roi un neu ddau bas byr ac amrywio’r person sy’n cario, gyda phobl yn gwneud ffug rediadau o’u cwmpas er mwyn gorfodi amddiffyn Lloegr i wneud penderfyniad.
"Fe lwydodd Lloegr i guro Iwerddon gyda’u gêm gorfforol, a dyna yw prif gryfder gêm Iwerddon, felly roedd hynny’n dipyn o gamp.
"Ydy Cymru eisiau cymryd Lloegr ymlaen yn gorfforol?
"I fi, mae angen symud i ffwrdd o hynny.
"Os wnawn ni geisio cymryd nhw mlaen yn gorfforol, mi wnawn ni golli oherwydd does gennym ni'r chwaraewyr i chwarae fel yna."
Ond y cwestiwn hollbwysig yw – pwy mae Nicky yn meddwl yw’r ffefrynnau?
"Mae e’n agos rhwng y ddau dîm, ond i fi, Lloegr yw’r ffefrynnau - jyst.
"Maen nhw wedi edrych mor gryf â nhw yw’r ffefrynnau i ennill y Bencampwriaeth hefyd.
"Ond maen nhw’n chwarae gartref yn y Stadiwm Principality, felly mae gan Gymru gyfle i ennill y gêm hefyd, yn sicr."
Mae Isuzu yn noddi darllediadau gemau timau dynion a merched Cymru ar Clwb Rygbi yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019.
Clwb Rygbi Rhyngwladol – Dan 20: Cymru v Lloegr Nos Wener, Chwefror 22 (6.50).
Clwb Rygbi: Benetton v Dreigiau: Dydd Sadwrn, Chwefror 23 (12.45).
Clwb Rygbi Rhyngwladol: Cymru v Lloegr: Dydd Sadwrn, Chwefror 23 (4.00).
Clwb Rygbi Rhyngwladol - Menywod: Cymru v Lloegr: Dydd Sul, Chwefror 24 (12.15).
Cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here