MAE Llio Bryn Jones, o Ysgol Glan Clwyd, a Nan Jones, o Ysgol Brynhyfryd, wedi cael eu dewis i fod yn rhan o’r criw o bobl ifanc o bob cwr o Gymru fydd yn mynd ar daith flynyddol yr Urdd i wirfoddoli ym Mhatagonia fis Hydref eleni.

Derbynia’r daith nifer uchel o geisiadau bob blwyddyn, ac yn dilyn cyfweliadau anffurfiol a thasgau gwaith tîm ym mis Hydref 2018, dewiswyd y 25 lwcus, fydd yn mynd am bythefnos ym mis Hydref 2019.

Ond cyn hynny, bydd y bobl ifanc yn mynd ati i drefnu gweithgareddau i godi arian ar gyfer y daith.

Yn y gorffennol, cafwyd sawl syniad gwreiddiol iawn gan gynnwys gwersi clocsio a sialens triathlon, sy’n golygu eu bod yn cynnal digwyddiadau yn eu cymuned yng Nghymru, cyn gwneud yr un peth ym mhen draw’r byd.

Yn ystod y daith i Batagonia bydd y criw yn dilyn rhaglen o weithgareddau i hybu’r iaith Gymraeg yn Nhrefelin ac Esquel yn y gorllewin, ac yn Nhrelew a Gaiman yn y dwyrain.

Byddant yn ymweld a chynorthwyo yn yr ysgolion meithrin, a chynnal sesiynau hwyliog i’r plant yn yr ysgolion cynradd. Byddant hefyd yn ymweld â’r disgyblion uwchradd er mwyn rhoi cyfle iddynt ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell dosbarth.

Mae llawer o henoed y Wladfa yn parhau i siarad y Gymraeg yn rhugl, rhai fel iaith gyntaf hyd yn oed, felly bydd criw yr Urdd yn ymweld â nhw er mwyn cadw’r cysylltiad yn fyw drwy sgwrsio a rhoi anrhegion iddynt.

Caiff Eisteddfod ddwyieithog ei chynnal bob blwyddyn yn y Gaiman - Cymraeg a Sbaeneg - ac mae’r criw yn cefnogi’r Eisteddfod pob tro drwy gynrychioli Cymru wrth gystadlu.

Ym mhen arall y wlad yn y gorllewin, bydd y criw yn cynnal cyngherddau i’r gymuned er mwyn cynnig adloniant Cymraeg yn yr ardal, i gadw’r traddodiad yn fyw.

Mae’r ffaith bod rhaid i’r bobl ifanc gyd-fyw am bythefnos hefyd yn gwneud profiad cymdeithasol gwych a hynod werthfawr i’r criw.

Meddai Eleri Mai, rheolwr gwaith ieuenctid Urdd Gobaith Cymru:

“Rydym yn falch iawn ein bod yn medru cynnig y profiad unigryw hwn i’n haelodau.

"Profiad sydd yn aml yn agoriad llygad iddynt a phrofiad fydd yn aros yn y cof am byth.”