BU ysgol leol yn cystadlu am y tro cyntaf eleni yn yr Wyl Cerdd Dant a daeth Ysgol Llannefydd yn fuddugol yn y gystadleuaeth parti cerdd dant dan 12 oed yn erbyn 19 o bartion eraill.

Cawsant hefyd ail yn y gystadleuaeth i barti llefaru gyda ‘Byddin y brwshys llawr’.

Llwyddiant ysgubol i ysgol fach wledig!

Hoffai’r rhieni ddiolch i’r athrawon Gwawr Davies, Sioned Hedd Jones a’r gyfeilyddes Mair Beech Williams am eu gwaith di-flino ac am roi profiadau bythgofiadwy i’r plant.