WRTH i’r amser nesáu, cynyddu hefyd mae’r cyffro am Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020.

Yn ogystal â pharatoi at y cystadlaethau o bob math, mae prysurdeb a pharatoi ymhlith plant ac ieuenctid y sir ar gyfer amrywiol sioeau a fydd yn ddi-os yn rai o uchafbwyntiau’r wythnos.

Ac wrth i’r Eisteddfod gael ei lansio yn swyddogol ar Chwefror 14, gyda 100 diwrnod i fynd tan yr wythnos fawr, dyma ddyddiad pryd bydd tocynnau’r amrywiol gyngherddau a sioeau yn mynd ar werth.

Dwy o’r rhain yw Penawdau, y sioe blant oed cynradd, a Dan y Fawd, y sioe ieuenctid.

Mae’r ddwy yn sioeau hollol wreiddiol wedi eu hysgrifennu gan ddau enw cyfarwydd o’r sir - Penawdau gan Mali Williams, a Dan y Fawd gan Angharad Llwyd Beech, sy’n cyfarwyddo ei sioe ei hun, gyda Catherine Jones yn Is-gyfarwyddwr ac Ynyr Llwyd yn gyfarwyddwr cerdd.

Meddai Angharad Llwyd am Dan y Fawd: “Mae gan y rhan fwya’ o’r cymeriadau nodweddion symbolaidd yn perthyn i rai o bobl hanesyddol Sir Ddinbych.

"Siôn - sydd isio mynd yn Aelod Seneddol. Roedd 'na ddyn o’r enw Siôn y Bodiau yn byw yn Ninbych ers talwm - Siôn y Bodiau am fod ganddo fo ddau fawd ar bob llaw - ac mi roedd o’n Aelod Seneddol.

"Enw ei fab oedd Siôn hefyd - ac yn y sioe yma dwi wedi ei alw yn Sionyn.

"Roedd 'na ferch o’r enw Catrin o Ferain yn byw yn yr ardal hefyd - dynes ddeallus a phwerus - ac yn ein sioe ni, mae Catrin yn helpu i ddeffro’r bobl gyda help Owain - Owain Glyndwr yn un arall o’r sir a ddeffrodd y Cymry flynyddoedd maith yn ôl.

"Bydd cymeriad Cêt yn ddarllenwraig frwd, sy’n ein hatgoffa o Frenhines ein Llen, Kate Roberts.

“Mae gennym ni elfennau o Twm o’r Nant - sy’n rhannu straeon ar Instagram, a Thomas Gee o’r hen Wasg Gee - dyn y papur newydd.”

Bydd y Free Press yn dod â manylion y sioe gynradd a’r cyngerdd agoriadol yn yr wythnosau nesaf.

Bydd tocynnau’r sioeau a’r cyngerdd agoriadol ar werth o Chwefror 14.

Dan y Fawd, Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy ar Fai, 2, 3 a 23. Penawdau, Mai 26, Y Pafiliwn.

Cyngerdd Agoriadol, Mai 24, Y Pafiliwn.

Gellir prynu tocynnau dros wefan yr Urdd urdd.cymru neu trwy ffonio 0845 257 1639.