O’R penwythnos hwn ymlaen, bydd y rhaglen gylchgrawn boblogaidd Heno yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r arfer am hanner awr bob nos Sadwrn.

Wrth ddarlledu’n fyw ar S4C am 7.30 o leoliadau ar draws Gymru, bydd y rhaglen yn rhoi cipolwg ar ddigwyddiadau’r dydd a rhoi syniad o sut mae pobl yn treulio eu penwythnosau.

Bydd cyfle i’r cyhoedd rannu straeon o bob cwr o Gymru, boed yn sgôr gem pêl-droed, llun o briodas odidog neu clip o gôr yn canu.

Sut bynnag y byddwch yn treulio eich nos Sadwrn, beth am wahodd criw Heno?

Yn ôl Elin Fflur, un o gyflwynwyr Heno: “Bydd darlledu ar nos Sadwrn yn gyfle gwych i fod yn ran o ddigwyddiadau hollol wahanol i’r arfer.

"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael ymuno hefo’r hwyl ar hyd a lled y wlad a gweld sut mae pobl yn mynd ati i ymlacio a mwynhau eu hunain.

"Mi wneith hi sioe anhygoel”.

Cyngerdd John ac Alun yn Galeri Gaernarfon fydd canolbwynt y rhaglen gyntaf, gan symud ymlaen i Wyl Gwrw a Seidr, Llambed yr wythnos ganlynol. Bydd y criw yn darlledu o Theatr Clwyd i ddod a pherfformiad Al Lewis o’i albwm Te yn y Grug i’ch cartref.

Bydd y camerâu hefyd yn dilyn yr hwyl a’r miri o Glwb Rygbi Rhuthun ar brynhawn gêm rygbi’r Chwe Gwlad, Iwerddon yn erbyn Cymru.

“Mae’n argoeli bydd rhywbeth at ddant bawb. Aelod o glwb? Dyma eich cyfle i serennu fel rhan o ‘Clwb Ni’, eitem wythnosol ar grwpiau lleol."

Bydd olwyn Ffansi Ffortiwn yn mynd ar daith gyda’r criw, sy’n golygu bydd siawns i wylwyr ennill hyd at fil o bunnau pob wythnos.

Ond, bydd y cyflwynwyr yn camu’n nôl i roi cyfle i grwp lleol droi yr olwyn a bod yn rhan o gyffro’r gêm a chael gwobr am eu hymdrechion.

Gyda’r cyfan yn darlledu’n fyw ar S4C, bydd adloniant gwerth chweil.

Bydd cynnig rhaglen ychwanegol o Heno ar nos Sadwrn yn arwain y ffordd i sawl newid i amserlen S4C.

Wedi trafod a gwrando ar farn y gwylwyr, bydd y sianel yn lansio amserlen newydd sbon ar Chwefror 24, un sydd wedi ei lunio i gysoni rhaglenni newyddion ac operâu sebon, a gallu cynnig cyfresi newydd cyffrous.