MAE S4C yn cynnal diwrnod llawn sioeau a gweithdai yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Sul, Ionawr 12.

Mae Gwyl Cymryd Rhan yn wyl llawn digwyddiadau gwahanol, gan gynnwys sesiynau Rownd a Rownd a sioeau Cyw.

Bydd sioeau Cyw ymlaen gydol y diwrnod o 10 o’r gloch y bore ymlaen, a gweithdai Rownd a Rownd am ddim i blant cynradd ac uwchradd, lle bydd cyfle i gyfarfod rhai o actorion a chynhyrchwyr y rhaglen boblogaidd.

Am rhagor o fanylion, i gofrestru ac i gadw tocynnau ar gyfer Sioe Cyw ffoniwch 01492 872000 neu ewch i www.venuecymru.co.uk