I DDATHLU 10 mlynedd ers rhyddhau’r albwm Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn, mae Cowbois Rhos Botwnnog ar daith o gwmpas theatrau Cymru gyda chasgliad o ganeuon hen a newydd.
Bydd yr holl fand gwreiddiol oddi ar y record yn ymuno â’r brodyr i’w pherfformio yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys Branwen ac Osian Williams (Candelas, Blodau Papur, Siddi), Llyr Pari (Serol Serol, Omaloma), ac Euron Jones (Maharishi, Gai Toms).
Bydd Cowbois Rhos Botwnnog yn ymweld â theatrau a chlybiau yn cychwyn yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar nos Sadwrn, Chwefror 15, cyn symud ymlaen i Theatr Derek Williams, y Bala ar nos Fercher, Chwefror 19 ac yna ar daith led led Cymru.
Tocynnau nawr ar gael, ac yn gwerthu’n barod i Theatr Twm o’r Nant gan Menter Iaith ar menter@misirddinbych.cymru / 01745 812822.
Tocynnau ar gyfer y Bala ar gael o theatrderekwilliams@gmail.com neu siop Awen Meirion.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here