YN dilyn noson arbennig yn theatr Twm o’r Nant nos Fercher ddiwethaf mewn cymanfa Codi’r To i gofio Merêd yn 100 oed, bydd Gwilym Bowen Rhys yn dychwelyd i’r ardal i gadw noson yn Neuadd yr Eglwys, Henllan, nos Sadwrn yma, Rhagfyr 7 - diolch i un o brosiectau cymunedol Menter Iaith Sir Ddinbych.

Daw Gwilym ag ychydig o hanesion ein hogyn ac anturliwtiwr lleol, Twm o’r Nant ynghyd â rhai o’i ganeuon gwerin poblogaidd, mewn noson gartrefol, addas i deuluoedd.

Mae croeso i’r gynulleidfa ddod â diodydd eich hun, neu bydd stondin yn gwerthu diodydd ysgafn a phaneidiau ar gael.

Mae mynediad am ddim.

Os hoffech rhagor o fanylion neu os hoffech gadw bwrdd, cysylltwch â Menter Iaith ar 01745 812822.

Cyllidwyd y digwyddiad hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Elfen arall o’r prosiect yw datblygu sgiliau gwirfoddolwyr sy’n cynnal gweithgareddau yn eu cymunedau.

Cafwyd sesiwn hyfforddiant defnyddiol iawn nos Lun gan Llion Jones o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor a ddaeth draw i Ddinbych i rannu arfer da a syniadau am sut orau i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Menter Iaith Sir Ddinbych.