MAE Orig Williams, neu El Bandito fel yr adnabu'r reslwr o Gymro, wedi cario'r ddraig i bedwar ban byd, wedi brwydro'r gwylltion gwyllta’, wedi ennill, colli, disgyn a chodi. Heb os nac oni bai, fe wnaeth e fyw i’r eithaf!

Dyn ffair, dyn reslo, dyn teulu, dyn mentro.

Mae Gai Toms wedi cyfansoddi chwip o albwm sy'n mynd â ni ar daith drimbwl-drambwl o fywyd Orig, o 'Balmant Aur' Ysbyty Ifan i'r rymbl yn y jyngl yn Calabar, Nigeria, gyda sain yr acordion, ffidil, trymped, trombôn a'r sacs yn llwyddo i roi'r ffync, yn ogystal â'r ffair i'r holl beth.

Mae’r sioe wedi cael adolygiadau gwych a chanmoliaeth heb ei hail ers Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy ym mis Awst eleni.

Dyma gyfle arbennig i weld perfformiad byw o’r albwm a bod yn rhan o noson fydd yn ddathliad o fywyd un o’n heiconau cenedlaethol.

Perfformir sioe ORIG yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar Nos Wener, Tachwedd 23 am 7.30yh. Hefyd yn perfformio ar y noson fydd y canwr gyfansoddwr ac enillydd Cân i Gymru eleni – Elidyr Glyn.

Tocynnau ar werth rwan gan Menter Iaith Sir Ddinbych ar 01745 812822.

Bydd copïau o’r sgript ar gael wedi eu hargraffu ar ffurf print bras, braille ac yn ddigidol.

Cefnogwyd y daith gan Cyngor Celfyddydau Cymru.