MAE cyngerdd elusennol Maer Dinbych, y Cyng Gaynor Wood-Tickle, yn cael ei gynnal yn Neuadd Y Dref, Dinbych Nos Sadwrn, 14eg o Fedi gyda Chôr Godre’r Aran a Dilwyn Pierce yn diddanu’r gynulleidfa er budd elusennau Cynnig, Y Samaritans a Brake.

Cartref Côr Godre’r Aran yw pentref Llanuwchllyn wrth droed mynydd yr Aran.

Dros y blynyddoedd, bu Côr Godre’r Aran yn cystadlu’n llwyddiannus ar lefel genedlaethol a rhyng-genedlaethol gan ennill prif-wobrau cystadlaethau corau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Ryng-genedlaethol, Llangollen.

Yn 2005 enillodd y côr gystadleuaeth BBC Radio Cymru i gorau meibion.

Dilwyn Pierce fydd yn arwain y noson, ffermwr o Lannefydd wedi dechrau diddanu drwy mudiad y ffermwyr ifanc a bellach yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau ledled y wlad ac ar S4C.

Mae tocynnau yn £10 ac ar gael yn Siop Clwyd a Siop Siocled, Dinbych, Siop Elfair Ruthin, Neuadd y Dref Rhyl a Siop Cardiau Woods, Bae Colwyn.