Y BRAIN / Kargalar yw’r cynhyrchiad theatr gyntaf erioed yn y Gymraeg a’r Dyrceg a fydd y sioe yn ymweld â Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar Mehefin 7 fel rhan o daith cenedlaethol.

Mae Y Brain / Kargalar yn archwilio hunaniaeth, cartref, rhyddid rhag gorthrwm ac iaith.

Cydweithiodd artistiaid o wledydd 2,000 o filltiroedd ar wahân i greu’r cynhyrchiad theatr gyntaf sy’n defnyddio’r Gymraeg a’r Dyrceg ochr yn ochr.

Wedi’i chyflwyno gan Be Aware Productions, fe’i perfformir gan Pinar Ögün a Rebecca Smith Williams, gyda throsiad Cymraeg gan Sharon Morgan.

Dywedodd yr awdur Meltem Arikan: “Oherwydd y cyhuddiadau yn fy erbyn yn Nhwrci, roeddwn yn ceisio cychwyn ar fy mywyd newydd yng Nghymru.

"Wedi marwolaeth annisgwyl fy ngwr, roeddwn yn ceisio ymdopi â phroblemau newydd ac weithiau’n meddwl am roi’r gorau i’r cwbl... ond efallai bod gan y gwyddau, y brain, y coed a natur berthynas gyda fi.

"Efallai bod y mynyddoedd, y cymoedd, y coedwigoedd yn fy nghofleidio beunydd.

"Efallai bod teimlad rhyngof a natur wyllt Cymru. Teimlwn fod y tiroedd hyn wedi eu lapio amdanaf bob amser, ar yr adegau anoddaf yn fy mywyd. A’u bod yn fy iacháu.”

Cyn dod i Gymru, roedd aelodau Be Aware Productions yn byw ac yn gweithio yn eu mamwlad, Twrci.

Honnwyd gan Lywodraeth Twrci bod eu drama olaf yno, Mi Minor, yn ‘rhagymarferiad’ ar gyfer protestiadau 2013 Parc Gezi yn Istanbul.

Fe’u gorfodwyd gan yr ymgyrch i’w pardduo a ddilynodd hynny i adael y wlad a dechrau byw yng Nghymru.