BYDD cyfle i’r rhai sy’n mwynhau bywyd gwyllt gymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau hwyliog yn Rhuthun ar Mehefin 8, lle bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal diwrnod natur yn Nantclwyd y Dre rhwng 10am a 5pm.

O adar, pryfed ac ystlumod i goedwigoedd a dolydd llawn blodau gwyllt, bydd cyfle i’w gweld i gyd, a gall y rhai sy’n bresennol gyfarfod y rhai sy’n gofalu am ein bywyd gwyllt lleol.

Yn ystod y digwyddiad, bydd enillwyr cystadleuaeth logo Caru Gwenyn y Cyngor yn derbyn eu gwobrau.

Gofynnwyd i blant rhwng 5 a 14 mlwydd oed greu logo yn dilyn dyfarniad statws Cyfeillgar i Wenyn i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, cynllun sy’n ceisio gwneud Cymru yn wlad gyfeillgar i beillwyr.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â 01824 709822 neu treftadaeth@sirddinbych.gov.uk neu ewch i www.nantclwydydre.co.uk