MAE Cwmni Theatr Bara Caws, mewn cydweithrediad â Cwmni Tebot, ar fîn gyflwyno Costa Byw - rifíw hwyliog sy’n cyfuno’r dwys a’r digri ac yn dychmygu sut le fydd Gwynedd mewn blynyddoedd i ddod.

Drwy lygaid cymeriadau niferus, cewch weld canlyniadau ein difaterwch presennol wrth iddynt geisio gwneud synnwyr o’u byd blêr nhw, a darganfod beth a’u harweiniodd nhw i fyw mewn byd o’r fath.

Cewch ambell gip ar broblemau cyfoes - mewnfudo, diffyg swyddi, cost tai, gwleidyddion, newid hinsawdd, crîm egs yn mynd yn llai bob gafael, hyn oll a mwy.

Dyma sioe berthnasol i bob cymuned yn yr oes ohoni gan dri dramodydd ifanc, lleol – Mari Elen, Mared Llywelyn a Llyr Titus.

Yr actorion yw Iwan Charles a Llyr Edwards, a’r cyfarwyddwr yw Betsan Llwyd

Mae Costa Byw ar daith rhwng Mawrth 26 ac Ebrill 13, yn cynnwys perfformiadau yn Llansannan, Cynwyd a Dinbych.

Ewch i wefan Theatr Bara Caws am rhagor o fanylion.