COFNODION meddygol hen ysbyty meddwl Dinbych yw ysbrydoliaeth ar gyfer drama Gymraeg newydd fydd yn teithio Gwanwyn yma.

Yn 2012, yn dilyn cais gan ddoctoriaid seiciatrig ym Mangor, defnyddiodd cwmni Frân Wen gofnodion meddygol y seilam Fictoraidd fel ysbrydoliaeth ar gyfer cynhyrchiad theatr byw.

Saith blynedd yn ddiweddarach, mae’r stori yma – Anweledig – yn paratoi i deithio theatrau mwya’ Cymru.

Wedi ei ysgrifennu gan yr awdur adnabyddus Aled Jones Williams, Ffion Dafis sydd yn chwarae rhan Glenda, clerc banc sy’n byw gydag iselder difrifol ac sy’n glaf yn ysbyty meddwl Dinbych.

Mae’r ddrama un-actor yn dilyn ei siwrnai galonogol, drawmatig a gobeithiol.

“Dyma’r tro cyntaf i mi berfformio monolog ar y prif lwyfan, felly rwy’n teimlo’n gyffrous iawn (ac yn nerfus),” meddai Ffion Dafis. “Wedi treulio 6 mlynedd yn datblygu’r sioe, mae o wedi bod yn esblygiad naturiol.

"Dechreuon ni gyda pherfformiadau mewn lleoliadau bychain ond, wrth i Aled ddatblygu’r sgript, daeth yn amlwg bod stori Glenda yn haeddu’r brif lwyfan.

"Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r cyfanwaith am y tro cyntaf a’r tro diwethaf.”

Mae’r sgript yn tynnu ar brofiadau’r awdur.

“Mae Anweledig yn ein helpu i ddeall, dynoli a chydymdeimlo â phobl sy'n dioddef o iselder,” meddai Aled Jones Williams.

"Pan oeddwn yn sâl, roedd llawer o bobl yno i fy helpu, ond fel roeddwn i yn gwella roedd y bobl yn ei gweld yn anoddach.

"Mae ‘na linell yn y ddrama ble mae’n dweud 'mae gwella yn beth blêr. A salwch yn od o daclus. Proses ydi gwella, nid un digwyddiad ar un diwrnod."

Mae’r cyfarwyddwr Sara Lloyd yn argyhoeddedig y bydd pobl yn cerdded o’r theatr wedi mwynhau’r profiad.

“Rwyf am iddynt gerdded allan yn meddwl ychydig yn wahanol am y salwch. Gobeithio y byddant yn chwerthin ac yn crio, ond byddant yn teimlo’n fwy cadarnhaol am iselder.”

Mae Frân Wen wedi comisiynu'r artist Mirain Fflur i greu arddangosfa gelf, yn defnyddio naratif y ddrama ynghyd â straeon o’r hen ysbyty fel ysbrydoliaeth i greu arddangosfa fydd yn rhedeg ochr yn ochr â phob sioe.

Cynhelir y cynhyrchiad a’r arddangosfa ym Mangor (Chwefror 19-22), Aberystwyth (Mawrth 5-8), Caerdydd (Mawrth 12-13), Llanelli (Mawrth 18-21) a Stiwt, Rhosllannerchrugog (Mawrth 26-27).

Am docynnau a gwybodaeth pellach, ewch i www.franwen.com

Mae hefyd cyfle i gael cludiant i Rhos o Ddinbych a Rhuthun gyda Menter Iaith drwy ffonio 01745 812822.