BYDD miloedd yn heidio i Langollen i loddesta yr hydref hwn wrth i’r dref brydferth yn cael ei thrawsnewid yn brifddinas coginio gwledydd Prydain.

Mae Gwyl Fwyd Llangollen, sy’n cael ei chyfrif ymhlith y 10 wyl fwyd orau ym Mhrydain, yn llwyfan llwyddiannus i fwydydd a diodydd newydd, arloesol, o’r ardal.

Ac yno i gyfarfod y gloddestwyr ddydd Sadwrn a dydd Sul, Hydref 13 ac 14, bydd llond cegin o'r cogyddion gorau.

Mae'r trefnwyr yn hyderus y bydd yr wyl eleni, sydd ar faes Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, yn un o'r rhai gorau erioed.

Yn eu plith, yn ymuno yn y gegin arddangos â Graham Tinsley, seren Taste the Nation ar ITV a chyn gapten Tîm Coginio Cymru, bydd Luke Thomas, yr hoelen wyth y tu ôl i nifer o fwytai yng Nghaer, y Cotswolds a Berkshire.

Un arall o sêr y gegin fydd yno yw Dai Chef, cyn brif gogydd yng Ngwesty Bryn Howell ychydig i lawr y ffordd, sydd yn enwog am goginio i Luciano Pavarotti.

Yno roedd y seren opera yn aros pan ddaeth yn ôl i serennu yn yr eisteddfod 40 mlynedd ar ôl cystadlu ac ennill gyda chôr ei dad o Modena.

Eleni, bydd ymwelwyr â’r wyl yn gweld fod can serch enwocaf a thristaf Cymru wedi ysbrydoli cwrw newydd.

Mae’r gan Myfanwy yn adrodd stori drasig cariad, ofer, bardd ifanc tlawd o’r enw Hywel ab Einion at ferch ifanc fonheddig a oedd yn byw yng Nghastell Dinas Bran yn uchel uwchben Llangollen yn y 14eg ganrif.

Bydd y brag newydd, sydd, yn addas iawn, yn gwrw chwerw, ar gael i’w flasu am y tro cyntaf yn yr wyl.

Ei enw yw Heartbreak Hill, teyrnged i gariad gwrthodedig Hywel. Syniad Ynyr Evans, pen bragwr Bragdy Llangollen yw hyn.

Yn ôl Ynyr, roedd wedi’i gyfareddu gan hanes claf o serch Hywel a Myfanwy, a oedd yn ferch Iarll Normanaidd Arundel ac yn cael ei disgrifio fel “y ferch harddaf ym Mhowys”.

Un sy’n arddangos am y tro cyntaf yw’r cogydd o Sisili, Marina Midolo, 51, y mae ei theisennau, pwdinau a'i seigiau'n tynnu dwr o'r dannedd.

Mae Marina’n coginio mewn cegin newydd ei hadnewyddu ar dyddyn ger Cyffylliog, ger Rhuthun, lle mae’n byw gyda’i gwr Peter.

Meddai aelod o bwyllgor Gwyl Fwyd Llangollen Phil Davies: “Mae’r wyl fwyd yn ffenestr siop berffaith i gwmnïau sy’n asgwrn cefn ein heconomi gwledig.”