FAINT a wyddoch chi am y gŵr sydd yn nawddsant Cymru ac y byddwn yn cynnal diwrnod o ŵyl er cof amdano ar y cyntaf o Fawrth?
Mewn gwirionedd, cymysgedd o chwedlau a ffeithiau hanesyddol sydd gennym amdano gan na ysgrifennwyd gair am hanes ei fywyd hyd 500 mlynedd ar ôl ei farwolaeth.
Yn ôl pob sôn Sant oedd enw’i dad ac roedd yn frenin Ceredigion. Non oedd ei fam a lleian oedd hi. Ganwyd Dewi tua’r flwyddyn 520OC ger y man sy’n dwyn yr enw Tyddewi heddiw, a digwyddodd gwyrth pan gafodd ei eni - holltodd carreg a oedd wrth ben Non yn ystod drycin a glaniodd un hanner o’r garreg honno wrth ei thraed.
Dyna ddangos yn glir fod rhywun arbennig wedi’i eni.
Bu cyfres o ddigwyddiadau gwyrthiol eraill yn ystod ei fywyd megis dyn dall yn cael ei olwg wrth iddo olchi’i wyneb yn nŵr bedydd Dewi.
Un arall a gafodd ei olwg yn ôl yn wyrthiol drwy gyffyrddiad Dewi oedd Paulinus neu Peulin. Bu Dewi yn ddisgybl iddo yn ei fynachlog yn Llanddeusant yng ngogledd Sir Gaerfyrddin.
Daeth yn bregethwr amlwg gan grwydro o amgylch de Cymru a gorllewin Lloegr a chan gyflawni gwyrthiau yr un pryd.
Yna sefydlodd fynachlog yng Nglyn Rhosyn, Tyddewi bellach, gan roi pwyslais ar fywyd syml a disgyblaeth lem.
Mae yna sôn iddo fynd ar bererindod i Jeriwsalem a chael ei gysegru’n archesgob yno.
Bu farw ar Fawrth y cyntaf yn y flwyddyn 588 ac fe’i claddwyd yng Nglyn Rhosyn.
Yn 1120 gwnaed ef yn sant gan y Pab Callixtus, yr unig sant Celtaidd i gael ei ganoneiddio. Gosodwyd dyddiad ei farwolaeth yng nghalendr yr eglwys a chyhoeddodd y Pab y byddai dwy bererindod i Dyddewi yn gyfwerth ag un bereindod i Rufain. Mawr oedd y pererindota i Dyddewi gyda llawer yn credu y gallai gyflawni gwyrthiau er ei fod yn farw.
O ganlyniad i hyn oll ystyriwyd Dewi ymhen amser yn nawddsant Cymru.
Rhoddodd y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg daw ar ddathlu’r ŵyl grefyddol er cof amdano gan ystyrid hi’n ŵyl Babyddol. Yna, yn y ddeunawfed ganrif, daeth Gŵyl Dewi yn ôl i fri.
Am fwy o hanes y gŵr rhyfeddol hwn trowch at y llyfr dwyieithog Dewi Sant /Saint David gan Elin Meek. Cyhoeddir yn y gyfres Cip ar Gymru gan Wasg Gomer.