AR achlysur cyhoeddi CD newydd gyda Chwmni Sain, bydd Rhisiart Arwel yn perfformio mewn cyngerdd yn Theatr Twm o'r Nant, Dinbych nos Iau, Medi'r 6.

Yn ogystal â cherddoriaeth liwgar a chyffrous gan Bach, Granados, Albéniz, Handel, Satie, Brouwer, Piazzolla, Cardoso a Fleury, bydd Rhisiart yn perfformio nifer o’i gyfansoddiadau a’i drefniannau ei hun.

Yn enedigol o Ddinbych, treuliodd Rhisiart ei blentyndod yn Nyffryn Aman a’i lencyndod yng Nghorwen. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol y Berwyn a dechreuodd gael gwersi gitâr yn ei arddegau cynnar gyda John Aran.

Yn ddiweddarach, derbyniodd ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i astudio ymhellach ym Madrid gyda Ricardo Iznaola ac yn Llundain gyda John Duarte.

Bu Rhisiart yn gweithio fel tiwtor gitâr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ac mae hefyd wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar fwy nag un achlysur mewn consiertos gan Vivaldi a Rodrigo.

Tocynnau o Siop Clwyd neu Menter Iaith, Dinbych.