MAE enwebiadau nawr yn cael eu gwahodd ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Ddinbych 2018, gwobrau sy’n fawr eu bri ac sy’n cydnabod unigolion, timau, ysgolion a chlybiau am eu hymroddiad i chwaraeon cymunedol lleol llawr gwlad yn y sir.

Hyd yma, mae 70 o unigolion neu grwpiau wedi eu hanrhydeddu.

Hefyd, mae athletwyr ar lefel elitaidd o’r ardal leol, sy’n cynrychioli Cymru a Thîm GB yn eu camp ddewisol, a fydd yn parhau i gael eu gwobrwyo.

Bydd enwau pawb sy'n cyrraedd rownd derfynol y gwobrau yn cael eu hanfon at Chwaraeon Cymru a gwobrau personoliaeth chwaraeon BBC Cymru yng Nghaerdydd, lle bydd Sir Ddinbych yn gobeithio ychwanegu at lwyddiant y chwech mlynedd diwethaf gyda wyth wedi cyrraedd y rownd derfynol a chwech enillydd cenedlaethol.

Rhaid i’r rhai a enwebir fod yn byw yn Sir Ddinbych, neu fod yn gysylltiedig â chlwb yn Sir Ddinbych sy’n berthnasol i’w henwebiad ac wedi sicrhau eu llwyddiant yn y 12 mis sy’n arwain at ddyddiad cau y cais, sef Dydd Gwener, Gorffennaf 20.

Mae categorïau eleni’n cynnwys perfformiwr chwaraeon, perfformiwr chwaraeon ifanc, hyfforddwr y flwyddyn, tîm y flwyddyn, gwirfoddolwr y flwyddyn, gwobr chwaraeon anabledd, gwobr ysbrydoliaeth ifanc, gwobr cyflawniad oes a’r wobr ‘Chwaraeon mewn Ysgolion’.

Gellir gwneud enwebiadau ar-lein drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych ar www.sirddinbych.gov.uk/gwobrauchwaraeon