FAINT ohonom sy’n gwybod am Humphrey Llwyd, a gafodd ei eni a’i fagu yn Foxhall, ger Dinbych, a ddaeth yn un o wyr blaenllaw’r dadeni yng Nghymru?

Nid yn unig yn gyfrifol am y map cyntaf a gyhoeddwyd o Gymru, fo hefyd wnaeth gynorthwyo i basio’r gyfraith yn caniatau cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.

Roedd hefyd yn gyfrifol am gyfieithiadau o hen weithiau ar ddiwylliant a hanes Cymru sy’n parhau yn ddylanwadol hyd heddiw.

Cynhelir arddangosfa i nodi 450 o flynyddoedd ers marwolaeth Humphrey Llwyd, rhwng Awst 20 a 31 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.

Ewch i www.llyfrgell.cymru am fwy o wybodaeth.