MAE diwrnod gwych ar y gweill i deuluoedd ddydd Sadwrn yma, Mehefin 30, gyda sgwâr tref Rhuthun yn fwrlwm o adloniant o 1 o’r gloch ymlaen.

Wedi i berfformiadau ar lwyfan Top Dre orffen am 8, bydd yr hwyl yn ymledu i dafarndai’r dref.

Eleni, bydd yr wyl yn croesawu ymwelwyr o Briec yn Lydaw, tref sydd wedi gefeillio gyda Rhuthun ers 25 mlynedd eleni, a’u band chwyth traddodiadol yn teithio efo nhw - sef y Bagad.

Yn ogystal â’r Bagad, bydd Dafydd Iwan a’r Band yn perfformio a llu o artistiaid eraill, gan gynnwys Ceidwad y Gân, Trwbz, Dawnswyr Gwerin Caernarfon a Band Pres Ieuenctid Sir Ddinbych.

Bydd hefyd ardal i blant yn Eglwys San Pedr, a hefyd yn newydd eleni, parth ieuenctid ar y sgwâr gyda gwaith celf, ceir rali a chodio dronau.

Gofynnir am gyfraniad o £4 am fynediad i’r digwyddiad a hoffai’r pwyllgor trefnu atgoffa pobl fod gwaharddiad ar wydr mewn grym, a bod bar yr wyl wedi ei leoli ar dop Stryd y Farchnad, gyda phob ceiniog o’r elw yn mynd i sicrhau fod yr wyl yn dychwelyd yn 2019.