MAE ukuleles bellach yn boblogaidd tu hwnt ac mae rhai plant yn Sir Ddinbych wedi bod yn cael hwyl ar gyfansoddi alawon gyda’r offeryn dros y misoedd diwethaf, diolch i raglen o weithdai gyda Menter Iaith Sir Ddinbych.

Nod y gweithdai yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu sgiliau cerddorol mewn grwpiau, tra’n cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod y gweithdai, cafwyd gyfle i gyfansoddi a recordio cân yn ogystal ag i ddatblygu sgiliau chwarae offeryn, ac yna, cyflwynwyd CD i bob plentyn ar ddiwedd y gyfres.

Ar ôl dwy gyfres lwyddiannus, yn Rhuthun a Dinbych yn yr hydref, mae’r drydedd gyfres o weithdai bellach yn dwyn ffrwyth yng Nghynwyd, ger Corwen.

Tiwtoriaid o Bocswn, un o brosiectau Menter Môn, sy’n arwain y gweithdai, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Meddai Gwion Tomos-Jones, swyddog datblygu Menter Iaith Sir Ddinbych: “Rydym yn gobeithio parhau gyda mwy o weithdai ledled y sir er mwyn rhoi cyfle i blant wneud rhywbeth gwahanol sy’n datblygu sgiliau a hyder yn naturiol wrth iddynt gymdeithasu y tu allan i wersi ysgol.”